OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 2894 (Cy.295)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006, O.S. 2006/3342 (Cy. 303). Mae’r diwygiadau yn diweddaru’r rhestr o ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd yn O.S. 2006/3342 (Cy. 303) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2007/2900 (Cy. 251) ac O.S. 2010/1807 (Cy. 175).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn am fod y diwygiadau yn y Rheoliadau hyn yn ymwneud â threfniadau sydd eisoes yn bodoli ar gyfer apelau.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 2894 (Cy.295 )
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2014
Gwnaed 4 Tachwedd 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Tachwedd 2014
Yn dod i rym 1 Rhagfyr 2014
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi([1]) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([2]) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn yr adran honno ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddehongli unrhyw gyfeiriadau at offerynnau’r UE yn y Rheoliadau hyn fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.
Enwi, cymhwyso a chy